Patricia Hewitt

Patricia Hewitt
Ganwyd2 Rhagfyr 1948 Edit this on Wikidata
Canberra Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr, gweinyddwr, press secretary Edit this on Wikidata
SwyddYsgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol, Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldebau, Ysgrifennydd Economaidd i'r Trysorlys, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Liberty Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
TadLenox Hewitt Edit this on Wikidata

Awdures a anwyd yn Awstralia ac a fu'n byw yn ddiweddarach yn Lloegr yw Patricia Hewitt (ganwyd 2 Rhagfyr 1948) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd ac aelod o'r Blaid Lafur. Gwasanaethodd yng Nghabined 2007, fel Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd.[1]

Fe'i ganed yn Canberra ar 2 Rhagfyr 1948. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Genedlaethol Awstralia, Coleg Nuffield a Choleg Newnham. [2]

Dechreuodd gyrfa wleidyddol Hewitt yn y 1970au fel gwleidydd asgell-chwith uchel ei chloch a chefnogwr i Tony Benn A.S., gan gael ei chlustnodi gan MI5 fel "cyfaill comiwnyddiaeth", honedig. Ar ôl naw mlynedd fel Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor Hawliau Sifil Cenedlaethol, daeth yn ysgrifennydd y wasg i Neil Kinnock, a gynorthwyodd hi i foderneiddio'r Blaid Lafur. Ym 1997, hi oedd yr AS benywaidd cyntaf i Leicester West, sedd Lafur ddiogel, a gynrychiolodd am dair blynedd ar ddeg.

Yn 1981 priododd Birtles yn Camden; mae ganddynt ferch (ganwyd Medi 1986) a mab (ganwyd Chwefror 1988). Ym 1971, daeth yn Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus i Age Concern, cyn ymuno â'r Cyngor Cenedlaethol dros Ryddid Sifil ("Liberty", bellach), fel swyddog hawliau menywod yn 1973, ac am naw mlynedd o 1974 fel ysgrifennydd cyffredinol.

Yn 1990, dyfarnodd Cyngor Ewrop fod goruchwyliaeth MI5 o Hewitt a Harriet Harman, wedi torri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Mae'n gyn-lywodraethwr ysgol yn Ysgol Gynradd Tref Kentish.

Yn 2001, ymunodd â chabinet Tony Blair fel Llywydd y Bwrdd Masnach ac fel Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant, cyn dod yn Ysgrifennydd dros Iechyd yn 2005. Yn ystod ei chyfnod, copiodd yr ymarfer da yng Nghymru drwy wneud wneud y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn gyfreithiol-orfodol.

Ym Mawrth 2010, cafodd Hewitt ei gwahardd o'r Blaid Lafur Seneddol oherwydd y cwestiwn o afreoleidd-dra lobïo gwleidyddol, a honnwyd gan raglen Dispatches Channel 4.

  1. Rhyw: http://news.bbc.co.uk/1/hi/england/1832244.stm.
  2. Alma mater: https://books.google.co.uk/books?id=VFZOZvjEo8IC&pg=PA121.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search